2 Rhagfyr 2016
Annwyl Syr / Madam
Ymgynghoriad ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Cynulliad yn:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15874
Gellir gweld cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn Atodiad 1.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Fel arall, ysgrifennwch at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw sylwadau ddod i law erbyn 11 Ionawr 2017. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn. Mae Canllawiau ar gael i dystion sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau.
Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi’r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o’r polisi hwn i’w gael drwy gysylltu â’r Clerc (Bethan Davies - 0300 200 6372).
Yn gywir,
Simon Thomas AC
Cadeirydd
Atodiad 1 – Cylch Gorchwyl
1. Yr egwyddorion cyffredinol a’r angen am ddeddfwriaeth;
2. Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried.
3. A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil.
4. Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir ym Mhennod 6 o’r Memorandwm Esboniadol);
5. Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).
6. A yw egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu polisi a deddfwriaeth treth datganoledig wedi cael eu dilyn, sef:
· bod yn deg i fusnesau ac unigolion sy’n eu talu;
· bod yn syml, gyda rheolau clir sy’n ceisio lleihau costau cydymffurfio a gweinyddu;
· cefnogi twf a swyddi, a fydd, yn ei dro, yn helpu i fynd i’r afael â thlodi; a
· darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr.
7. Y diffiniad o ‘warediad trethadwy’ a ‘deunyddiau cymwys’;
8. Y darpariaethau o ran sut y bydd y dreth yn cael ei chyfrifo, gan gynnwys pwysau trethadwy deunyddiau a gostyngiad yng nghyswllt cynnwys dŵr;
9. Gweithredu cyfraddau treth, ac a yw’r rhain yn cadw’r hyblygrwydd i ymdrin â newidiadau dilynol ar lefel Cymru a’r DU;
10. Yr eithriadau arfaethedig;
11. Y gostyngiadau arfaethedig;
12. Cynnwys gwarediadau o wastraff heb awdurdod mewn mannau ar wahân i safleoedd tirlenwi awdurdodedig;
13. Arolygu safleoedd at ddibenion canfod atebolrwydd person o ran y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi, a rhannu gwybodaeth rhwng Awdurdod Cyllid Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol;
14. Y dyletswyddau ar drethdalwyr i wneud taliadau ac i dalu cosbau, a llog o dan rai amgylchiadau;
15. Sut y mae cwmnïau, partneriaethau a chyrff anghorfforedig yn cael eu trin o ran y darpariaethau a’r cyfrifoldeb dros gydymffurfio;
16. Sefydlu Cynllun Cymunedau Tirlenwi fel cynllun grant yn hytrach na chredyd treth a’i ddatblygu y tu allan i’r Bil.